Mobile Phone Upgrade Scam – Be Aware.
Dyfed Powys Police are aware of an ongoing scam where consumers are being cold called by individuals impersonating employees of legitimate mobile network operators and suppliers.
Victims are offered early handset upgrades, or new contracts, at significant discounts. Once customers have been convinced that the deals are genuine and agree to proceed, suspects then ask for their online mobile account credentials, including log-ins, address and bank account details.
Suspects then place orders with genuine companies on behalf of victims, however select a different handset to that requested and have it shipped to the customer’s address.
Upon receipt, suspects assure victims that this has been an error and instruct them to ‘return’ the handset to a different address not affiliated to the mobile company. These addresses are usually residential.
Upon intercepting the ‘returned’ handsets, the suspects cease contact and victims find themselves stuck with no phone and liable for the entirety of a new contract taken out in their name.
• Cold calls about mobile upgrades and contracts – If you’re unsure that the person calling you is an official representative of the company they claim to be from, hang up and do not reveal any personal information.
• Only contact your mobile network provider on a number you know to be correct. For example, 191 for Vodafone customers, 150 for EE customers, 333 for Three customers, 202 for O2 customers, 4455 for Tesco Mobile, 789 for Virgin Mobile and 150 for Sky Mobile.
• If you receive a device that you did not order or expect, contact the genuine sender immediately. The details for this will be within the parcel.
• NEVER post a device directly to a given address. All genuine Mobile Network Operators would send out a jiffy bag for you to return without you incurring additional cost.
Stay safe online advice:
Stop: Take a moment to think before parting with your money or information – it could keep you safe.
Challenge: Could it be fake? It’s ok to reject, refuse or ignore any requests. Only criminals will try to rush or panic you.
Protect: Contact your bank immediately if you think you’ve fallen victim to a scam and report it to the Police.
Report suspicious emails to: report@phishing.gov.uk
You can also report suspicious texts by forwarding the original message to 7726, which spells SPAM on your keypad.
The police, or your bank, will never ask you to withdraw money or transfer it to a different account. They will also never ask you to reveal your full banking password or PIN.
Do not click on links or attachments in unexpected or suspicious texts or emails. Confirm requests are genuine by using a known number or email address to contact organisations directly.
Report to Dyfed Powys Police:
https://www.dyfed-powys.police.uk/en/contact-us/report-an-incident/ or call 101
DC357 Gareth Jordan – Dyfed Powys Police
Twyll Diweddaru Ffôn Symudol – Byddwch yn Wyliadwrus.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymwybodol o dwyll cyfredol lle mae prynwyr yn derbyn galwadau diwahoddiad gan unigolion sy’n esgus eu bod nhw’n gweithio i gyflenwyr a gweithredwyr rhwydwaith symudol dilys.
Mae dioddefwyr yn cael cynnig diweddaru eu setiau ffôn yn gynnar, neu’n cael cynnig cytundeb newydd, am bris gostyngol. Unwaith y mae’r cwsmeriaid wedi’u hargyhoeddi bod y cynigion yn ddilys ac yn cytuno i barhau, mae’r drwgdybiedigion yn gofyn iddynt am fanylion eu cyfrifon ffôn symudol ar-lein, gan gynnwys manylion mewngofnodi, cyfeiriad a chyfrif banc.
Yna, mae’r drwgdybiedigion yn gosod archebion gyda chwmnïoedd dilys ar ran dioddefwyr, fodd bynnag, maen nhw’n dewis set law sy’n wahanol i’r un y gofynnwyd amdani ac yn ei hanfon at y cwsmer.
Ar ôl iddynt ei derbyn, mae drwgdybiedigion yn sicrhau dioddefwyr bod camgymeriad wedi digwydd ac yn dweud wrthynt am ‘ddychwelyd’ y set law i gyfeiriad gwahanol sydd ddim yn gysylltiedig â’r cwmni ffôn symudol. Mae’r cyfeiriadau hyn fel arfer yn rhai preswyl.
Ar ôl rhyng-gipio’r setiau a ‘ddychwelir’, mae’r drwgdybiedigion yn torri cysylltiad ac mae’r dioddefwyr yn canfod eu hunain heb ffôn ac yn atebol ar gyfer cytundeb newydd a gymerwyd allan yn eu henw.
• Galwadau diwahoddiad ynghylch cytundebau a diweddariadau ffôn symudol – os ydych chi’n ansicr pa un ai a yw’r person sy’n eich galw’n gynrychiolydd swyddogol o’r cwmni mae’n honni ei fod yn gweithio iddo, rhowch y ffôn i lawr a pheidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.
• Dylech ond cysylltu â’ch darparwr rhwydwaith ffôn symudol ar rif yr ydych yn gwybod sy’n gywir. Er enghraifft, 191 ar gyfer cwsmeriaid Vodafone, 150 ar gyfer cwsmeriaid EE, 333 ar gyfer cwsmeriaid Three, 202 ar gyfer cwsmeriaid O2, 4455 ar gyfer cwsmeriaid Tesco Mobile, 789 ar gyfer cwsmeriaid Virgin Mobile, ac 150 ar gyfer cwsmeriaid Sky Mobile.
• Os ydych chi’n derbyn dyfais nad oeddech chi wedi ei archebu nac yn ei ddisgwyl, cysylltwch â’r anfonwr dilys yn syth. Bydd y manylion ar gyfer hyn o fewn y parsel.
• Peidiwch BYTH â phostio dyfais yn uniongyrchol at gyfeiriad a roddwyd. Byddai pob Gweithredwr Rhwydwaith Ffôn Symudol dilys yn anfon bag cwiltiog ichi ei ddychwelyd heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Cyngor ar gyfer aros yn ddiogel ar-lein:
Stopio: Cymerwch ennyd i feddwl cyn rhoi eich arian neu eich gwybodaeth – gallai hyn eich diogelu.
Herio: A yw’n ffug? Mae’n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich brysio neu eich dychryn chi.
Diogelu: Cysylltwch â’ch banc ar unwaith os ydych chi’n meddwl eich bod wedi dioddef twyll a rhowch wybod i’r Heddlu amdano.
Adroddwch am e-byst amheus drwy anfon e-bost at: report@phishing.gov.uk.
Gallwch hefyd adrodd am negeseuon testun amheus drwy anfon y neges wreiddiol ymlaen i 7726, sy’n sillafu ‘SPAM’ ar eich bysellbad.
Ni fydd yr heddlu, na’ch banc, byth yn gofyn i chi dynnu arian o’r banc na’i drosglwyddo i gyfrif gwahanol. Ni fyddant byth yn gofyn ichi ddatgelu eich cyfrinair bancio na’ch rhif PIN llawn chwaith.
Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac atodiadau mewn negeseuon testun neu e-byst annisgwyl neu amheus. Cadarnhewch fod ceisiadau’n ddilys drwy ddefnyddio rhif neu gyfeiriad e-bost hysbys i gysylltu â sefydliadau’n uniongyrchol.
Rhowch wybod i Heddlu Dyfed Powys drwy alw heibio i https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/ neu drwy alw 101.
DC357 Gareth Jordan – Dyfed Powys Police